SL(6)190 – Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 (“Gorchymyn 2022”) yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf a'r telerau a'r amodau cyflogaeth eraill i weithwyr amaethyddol.

Mae Gorchymyn 2022 yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020 (“Gorchymyn 2020”) gyda newidiadau sy'n cynnwys strwythur graddio newidd, a’r cyfraddau tâl isaf fesul awr ar gyfer gweithwyr amaethyddol. 

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu’r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cafodd ei osod gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(iv) - ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn

Gwnaed y Gorchymyn ar 31 Mawrth 2022 a daw i rym ar 22 Ebrill 2022. Fodd bynnag, mae darpariaethau’r Gorchymyn yn cymhwyso’n ôl-weithredol o 1 Ebrill 2021 ymlaen. Nid yw’n ymddangos bod Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn rhoi awdurdod penodol ar gyfer hyn. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn nodi fel a ganlyn:

 

The provisions within the Order are intended to apply retrospectively to 1 April 2021. The Panel were of the view this would recompense those agricultural workers who had expected an increase in their hourly wage from 1 April 2021, as was proposed in the Panel’s targeted consultation of autumn 2020.

 

Safbwynt Llywodraeth Cymru yw mai diben cymwhyso ôl-weithredol o ddarpariaethau’r Gorchymyn yw cynyddu cyflogau gweithwyr a oedd wedi disgwyl cynnydd ym mis Ebrill 2021. Fodd bynnag, nid oes unrhyw esboniad yn y Memorandwm Esboniadol am yr oedi rhwng y Panel yn cyflwyno Gorchymyn drafft diwygiedig ar 21 Rhagfyr 2021, a gwneud a gosod y Gorchymyn (ar 31 Mawrth ac 1 Ebrill 2022 yn y drefn honno). Cynhaliwyd ail ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno’r drafft diwygiedig, a hynny ym mis Hydref a mis Tachwedd 2021. Aeth rhyw dri mis heibio rhwng cyflwyno’r drafft diwygiedig a gwneud y Gorchymyn.

 

Mewn perthynas ag ôl-gymhwyso’r Gorchymyn, mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn:

 

The intention of the Panel was to have the new Order in force on 1 April 2021, to coincide with increases to the National Living Wage (NLW) and National Minimum Wage (NMW) and avoid a transitional period during which the NLW/NMW would override the Agricultural Minimum Wage (AMW) levels. However, the scale and nature of the changes necessitated referral back to the Panel for clarification of a number of policy and legal matters. In response, the Panel made changes to their draft proposals. Some of these changes were sufficiently different so as to require a second public consultation. This took place between 20 October and 19 November 21. The Panel subsequently submitted a revised draft Order on 21 December 2021 and requested that the Order be made with retrospective effect to recompense those agricultural workers who had expected an increase in their hourly wage from 1 April 2021, as was proposed in the Panel’s targeted consultation of autumn 2020.

 

Following careful consideration, Welsh Ministers approved the draft Order and request for retrospective effect. At present, agricultural workers’ wages in Wales are subject to the minimum rates specified by the Agricultural Wages (Wales) Order 2020, except for minimum rates in the Order which fall below the NMW and NLW.   

 

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae adran 3 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn ymwneud â gorchmynion cyflogau amaethyddol. Mae adran 3(5) yn darparu ni chaniateir pennu cyfradd tâl isaf mewn gorchymyn o dan yr adran hon sy’n llai na’r isafswm cyflog cenedlaethol”. Gwnaed y Gorchymyn ar 31 Mawrth 2022, daeth i rym ar 22 Ebrill 2022, ond cafodd effaith ar 1 Ebrill 2021. Ar 1 Ebrill 2022, cafodd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol eu cynyddu. Mae’r cyfraddau tâl isaf a bennir yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn mewn rhai achosion yn is na’r cyfraddau isafswm cyflog cenedlaethol o 1 Ebrill 2022 ymlaen, er eu bod yn gyfartal â’r cyfraddau isafswm cyflog cenedlaethol sy’n gymwys ar 1 Ebrill 2021, neu’n uwch na hwy. Nid yw’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Gorchymyn yn esbonio rhesymeg Llywodraeth Cymru dros gredu y cydymffurfiwyd ag adran 3(5) o’r Ddeddf, gan fod y Gorchymyn yn pennu cyfraddau tâl isaf sy’n llai na’r isafswm cyflog cenedlaethol o 1 Ebrill 2022. Byddai gwybodaeth bellach yn ddefnyddiol er mwyn deall safbwynt Llywodraeth Cymru.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Gorchymyn yn cyflwyno strwythur graddio newydd ar gyfer gweithwyr amaethyddol. Mae’r cyfraddau tâl isaf ar gyfer gweithwyr amaethyddol, yn ôl gradd, wedi’u nodi yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn. Mae’r rhain yn cael effaith o 1 Ebrill 2021. Mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol wedi cynyddu, gydag effaith o 1 Ebrill 2022.  Mae’r codiadau hyn mewn rhai achosion yn uwch na’r cyfraddau isaf y mae’r Gorchymyn yn darparu ar eu cyfer. Mewn rhai achosion, canlyniad hyn yw dileu neu leihau effaith y cyfraddau tâl graddedig, sy'n gwobrwyo gweithwyr mwy profiadol neu gymwys. Er enghraifft, yn unol ag Atodlen 1 i’r Gorchymyn, byddai gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A4 23 oed neu’n hŷn yn cael £8.91 yr awr. Fodd bynnag, o 1 Ebrill 2022, byddai’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi’r swm hwn i £9.50 yr awr. Byddai gweithiwr amaethyddol Gradd B4 23+ oed yn cael lleiafswm o £9.19, eto wedi’i godi i £9.50 yr awr. Byddai gweithiwr Amaethyddol Gradd C 23+ oed hefyd cael y gyfradd Cyflog Byw Cenedlaethol o £9.50, gan fod ei dâl isaf Atodlen 1 o £9.47 hefyd yn codi. Fel y cyfryw, nid oes gwobr ariannol ar hyn o bryd i weithiwr yn y categori oedran hwn o fod yn Radd C4, yn hytrach nad bod yn weithiwr A4. Mae'n ymddangos bod hyn yn rhwystr i ddilyniant yn y tymor byr. Mae’n bosibl y bydd rhai gweithwyr amaethyddol ar gyfradd uwch o dâl os cânt eu hamddiffyn gan y darpariaethau diogelu tâl yn erthygl 15, yn dilyn cyflwyno’r strwythur graddio newydd.  Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn egluro pryd y bwriedir gwneud Gorchymyn pellach. Fel y cyfryw, mae'n anodd gweld pryd y bydd modd datrys y broblem hon.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau 1 i 3 uchod.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Mai 2022